Gwelir myrdd o ryfeddodau Ar ddyfodiad Iesu Grist; Ni fydd un o'r gwaredigion Ar y boreu hwnw'n drist; Galar mwy, poen na chlwy', Fyth ni ddaw i gwrdd â hwy. Dyma'r dydd y cân y caethion, Nes dadseinio'r nefoedd fawr, Am ddyfodiad eu Gwaredwr, Pan y cwrddont uwch y llawr: Yn eu plith, rhif y gwlith, Molaf fy Iachawdwr byth.Morgan Rhys 1716-79 - - - - - Gwelir myrdd o ryfeddodau, Ar ddyfodiad Iesu Grist; Ni bydd un o'r gwaredigion Yn y bore hwnnw'n drist; Galar mwy, poen na chlwy', Byth ni ddaw i'w blino hwy. Cânt ei weld a'i carodd yna Yn y man yr ochor draw, Oll yn glwedda ar ei gariad, A'u telynau yn eu llaw: Oll yn un, a chytûn, Molant Dduwdod yn y Dyn. Peraidd ganant yn ddiddiwedd Wedi angau du a'r bedd; Nid oes yno glaf na chlwyfus Yng nghymdaithas Brenin hedd: Nefoedd yw gweled Duw Heb un gorchudd o un rhyw.1,3: Morgan Rhys 1716-79 2 : William Williams 1717-91
Tonau [878767]: gwelir: Bechaduriaid o bob enw Canu wnaf am fuddugoliaeth Dacw'r hyfryd fan caf drigo |
A myriad wonders are to be seen At the coming of Jesus Christ; Not one of the delivered ones Shall on that morning be sad; Neither lamenting, pain nor wound, Shall ever come to meet them any more. This is the day the captives shall sing, Until the great heavens resound, About the coming of their Deliverer, When they meet above the earth: In their midst, numerous as the dew, I shall praise my Saviour forever. - - - - - A myriad of wonders is to be seen, At the the coming of Jesus Christ; There will not be one of the delivered Sad on that morning; Lamenting any more, pain or injury, Shall not come to trouble them. They shall get to see the one they loved there In the place on the far side, All feasting on his love, With their harps in their hand: All one, and in agreement, They praise Divinity in the Man. Sweetly they shall sing endlessly After black death and the grave; There is there no wounded or sick In the fellowship of the King of peace: Heaven is to see God Without any covering of any kind.tr. 2014,20 Richard B Gillion |
|